Llwytho
Skip to main content
Torfaen & Blaenau Gwent Joint Local Development Plan

Croeso i Gydgynllun Datblygu Lleol Blaenau Gwent a Thorfaen

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith, i bob Cyngor yng Nghymru baratoi Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) i lywio'r gwaith o ddatblygu a defnyddio tir, a'u hadolygu/disodli yn rheolaidd. Mae mabwysiadu CDLl yn darparu fframwaith polisi ar gyfer penderfynu ar geisiadau / apeliadau cynllunio.

Mae'r Cynghorau'n paratoi Cydgynllun Datblygu Lleol (CGDLl) newydd ar gyfer Blaenau Gwent a Thorfaen i ddisodli'r CDLl a fabwysiadwyd eisoes ar gyfer pob Bwrdeistref Sirol.

Bydd y CGDLl yn helpu i lywio Blaenau Gwent a Thorfaen hyd at 2041 gan sicrhau bod y datblygiad iawn yn digwydd yn y lle iawn ar yr adeg iawn.

Bydd y cydgynllun yn ceisio datrys anghydraddoldebau ar draws ardal y cydgynllun a fydd yn fanteisiol i gymunedau a'r economi, a bydd yn nodi pa ardaloedd sydd angen eu diogelu.

Bydd gan yr ardal ddylanwad cryfach yn rhanbarthol, gan gryfhau ein llais ar y cyd mewn fforymau rhanbarthol a chenedlaethol ac o ran alinio â'r Cynllun Datblygu Strategol (CDS) Rhanbarth Prifddinas Caerdydd.

A row of houses adjacent to the canal
delwedd wrth gefn

Cofrestrwch i gael gwybod y diweddaraf a chymryd rhan yn ymgynghoriadau’r Cynllun newydd

Cofrestrwch i gymryd rhan, cael gwybod y diweddaraf a chymryd rhan yn ymgynghoriadau’r Cynllun newydd, canllawiau cynllunio atodol, ac ati

Cofrestru i Gymryd Rhan
Four people sitting around a table looking at blueprints (Source: Pexels - Vitaly Gariev)

Edrychwch i weld pryd y gallwch chi gymryd rhan

Gweld yr amserlenni dangosol ar gyfer y CGDLl newydd

Pryd i gymryd rhan
A close-up shot of paper clipped documents (Source: Pexels - Kindel Media)

Gweld Dogfennau Ategol

Gweld rhestr o astudiaethau a dogfennau a fydd yn cael eu defnyddio i lywio'r Cynllun newydd.

Dogfennau Ategol
Artist impression of Ebbw Vale College

Safleoedd Ymgeisiol

Gweld y wybodaeth ddiweddaraf am y broses safleoedd ymgeisiol

Safleoedd Ymgeisiol
© Hawlfraint 2026. Torfaen & Blaenau Gwent Joint Local Development Plan
Footer