Mae’r Cynghorau yn paratoi Cytundeb Cyflawni ar gyfer Cydgynllun Datblygu Lleol Blaenau Gwent a Thorfaen . Mae’r Cytundeb Cyflawni’n rhan bwysig o broses paratoi’r CGDLl. Mae’n dangos sut a phryd bydd y Cynghorau’n cynnig cyfleoedd i ymgynghoreion a’r gymuned leol gymryd rhan yn y broses.
Fe wnaeth yr Ymgynghoriad ar y Fe wnaeth yr Ymgynghoriad ar yCytundeb Cyflawni Drafft y CGDLI(opens in new tab) a Chrynodeb Gweithredol(opens in new tab) gau ddydd Gwener 4 Medi 2026. Diolch i bawb a wnaeth gynnig sylwadau.
Gellir gweld copi papur o’r Cytundeb Cyflawni Drafft a’r Crynodebau Saesneg a Chymraeg hefyd yn y mannau ‘adneuo’ canlynol:
- Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl
- Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glyn Ebwy
- Pob llyfrgell leol ym Mlaenau Gwent a Thorfaen
Bydd y Cynghorau nawr yn mynd ati ar ddechrau mis Tachwedd 2026 i ystyried yr holl sylwadau a dderbyniwyd am y Cytundeb Cyflawni drafft cyn gofyn i Lywodraeth Cymru ei gymeradwyo o fewn 4 wythnos o’r dyddiad y caiff ei gyflwyno iddynt. Felly, os gwneir hynny, rydym yn disgwyl cyhoeddi Cytundeb Cyflawni’r CGDLl ym mis Rhagfyr 2026.
Sut i gymryd rhan?
Rydym wedi cyflwyno system ymgynghoriad newydd trwy OpusConsult.
Unwaith yr ydych wedi cwblhau’r cofrestriad, byddwch yn cael gwybod y diweddaraf am y CGDLl.



