Mae'r holl Safleoedd Ymgeisiol a gyflwynwyd yn flaenorol i bob awdurdod wedi'u tynnu'n ôl. Bydd y Cynghorau'n cynnal 'ymarfer galwad am safleoedd ymgeisiol' o’r newydd, i gwmpasu Blaenau Gwent a Thorfaen, a hynny’n rhan o'r broses gynllunio newydd, a ragwelir ym mis Ionawr 2027.
Bydd yn ofynnol i bawb sydd eisoes wedi cynnig safle ymgeisiol neu’n bwriadu gwneud hynny yn y dyfodol, gyflwyno’u cynnig ar gyfer safle ymgeisiol yn ffurfiol ar gyfer y CGDLl newydd.
Bydd y Cynghorau yn paratoi Methodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol ar y Cyd ar ddechrau’r broses llunio cydgynllun, i gynorthwyo’r dasg o ddatblygu safleoedd, a darparu'r wybodaeth gefndir angenrheidiol.



